Image

Y TÎM

"Golwg fyd-eang..."


Ymhlith tîm y ddistyllfa mae dau ddistyllwr benywaidd (Aista a Laura, yn y llun uchod) y naill yn hanu o Lithuania a’r llall o Gaerdydd; siaradwr Eidaleg o’r Swistir, siaradwr Cymraeg o Nantgaredig, dyfarnwr rygbi cymwys, awdur sgriptiau teledu, ac Albanwr neu ddau yn gweithio fel tywyswyr. Ar ben hynny, daeth ein Prif Weithredwr, Stephen Davies, y Rheolwr Brand, Sian Whitelock a’r prif gyfranddaliwr, Nigel Short, i’r byd distyllu o ddiwydiant dur Cymru.

Image
Stephen Davies
- PRIF WEITHREDWR -

Ymunodd Stephen â’r cwmni ym mis Ionawr 2005, ar ôl bod yn Gyfarwyddwr Rhanbarthol gyda Brambles Industrial Services yn y DU a’r Iseldiroedd. Mae ganddo radd anrhydedd mewn Daeareg/Daearyddiaeth, Gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes ac mae’n aelod o Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi.

Fel Rheolwr Gyfarwyddwr, Stephen sy’n goruchwylio’r gwaith o redeg pob agwedd ar y busnes ac mae’n teimlo’n angerddol am Ddistyllfa Penderyn. Yn ogystal â’i rôl ym Mhenderyn, Stephen yn un o Gyfarwyddwyr The Brown’s yn Nhalacharn hefyd.

Image
Sian Whitelock
- CYFARWYDDWR BRAND -

Bu Sian yn gweithio i Brambles Industrial Services mewn rôl fasnachol, ac roedd wedi gweithio mewn swyddi rheoli cyn hynny mewn systemau rheoli ansawdd a rheoli cysylltiadau cwsmeriaid. Ar ôl dwy flynedd ar bymtheg o wasanaeth gyda’r cwmni, rhoddodd ei bryd ar her newydd ac ymunodd a Penderyn yn 2005.

Yn ogystal â chynorthwyo a goruchwylio’r gwaith o redeg y busnes o ddydd i ddydd, mae rôl Sian yn cynnwys llawer o weithgareddau y tu ôl i’r llenni megis datblygu cynhyrchion newydd, marchnata, cysylltiadau cyhoeddus, cydymffurfiaeth â rheolau allforio, prynu a rheoli stoc.

Image
Jim Swan
- MEISTR CYMYSGU -

2002-2017

Yn anffodus, bu farw Dr Jim Swan ar 17 Chwefror 2017. For more info please go to our NEWS page.

Roedd Dr Jim Swan yn gysylltiedig â Penderyn o’r dechrau ac ef oedd ein Meistr Cymysgu, ac yn gyfrifol am greu arddull unigryw ein brag sengl. Roedd yn ymgynghorydd i’r diwydiant diodydd byd-eang ac yn cynorthwyo bragwyr o’r safon uchaf, gwneuthurwyr gwin, distyllwyr a chowperiaid yn ogystal â nifer o gynhyrchwyr bach ar draws pum cyfandir. Roedd gan Dr Swan PhD mewn Cemeg a Gwyddorau Biolegol o Brifysgol Heriot-Watt.

Roedd yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol Cemeg a dyfarnwyd Cymrodoriaeth y Sefydliad Bragu a Distyllu iddo, ac yn fwy diweddar cafodd wobr arbennig gan gylchgrawn The Malt Advocate am ei wasanaethau i ddiwydiant y gasgen. Roedd ei feysydd o arbenigedd yn cynnwys aeddfedu mewn casgenni derw, ansawdd cynnyrch, distyllu a blendio. Cynhaliodd Dr Swan gyrsiau hyfforddi ar werthuso diodydd yn synhwyraidd a bu’n rheoli rhaglenni ymchwil gan Lywodraeth y DU a’r UE. Roedd yn awdur papurau gwyddonol niferus a bu’n cymryd rhan mewn darllediadau teledu a radio ar ansawdd gwirodydd. Roedd hefyd yn gadeirydd panel beirniadu yn y Gystadleuaeth Gwin a Gwirodydd Ryngwladol.

Bydd pawb ym Mhenderyn yn gweld colled fawr ar ôl Dr Swan, felly hefyd ei deulu, ei ffrindiau a chydweithwyr ledled y byd.

Image
Neil Burchell
- CADEIRYDD -

Mae Neil wedi gweithio yn y busnes bwyd ers deng mlynedd ar hugain ac mewn gwahanol gategorïau yn cynnwys bisgedi a chnau daear, sudd ffrwythau, iogwrt a hufen iâ. Mae ganddo brofiad busnes yn y DU a thramor, sy’n cynnwys cyfnod o ddwy flynedd ym Moscow.

Ymunodd â’r busnes tua chanol 2011 i gryfhau’r tîm ymhellach a helpu i arwain y cwmni i lwyddiant pellach.

Image
Huw Thomas
- CYFARWYDDWR ARIANNOL -

Mae Huw yn Gyfrifydd Siartredig a gymhwysodd gyda PWC ym 1991 gan ymuno a Welsh Whisky ddechrau 2011.

Gyda blynyddoedd lawer o brofiad fel uwch swyddog cyllid proffesiynol gyda busnesau bach a chanolig yng Nghymru, gan weithio mewn sectorau amrywiol megis logisteg, prosesu bwyd, gwerthu uniongyrchol ac adeiladu, Huw sy’n gyfrifol bellach am holl elfennau ariannol ac ysgrifenyddiaeth cwmni’r busnes. Mae ganddo radd BSc (Econ) mewn Cyfrifeg o Brifysgol Caerdydd.

Image
Nigel Short
- CYFARWYDDWR A CHYFRANDDALIWR -

Mae Nigel wedi bod yn gysylltiedig â Phenderyn ers ymhell cyn y lansiad swyddogol yn 2004, yn gyntaf fel cyfarwyddwr a chyfranddaliwr ac yn ddiweddarach fel Cadeirydd Gweithredol. Cafodd ei eni a’i fagu yng Nghwm Cynon, ychydig filltiroedd o’r ddistyllfa.

Treuliodd Nigel bum mlynedd ar hugain yn gweithio yn y diwydiant dur ledled y byd gan gyflogi 1,500 o bobl mewn chwe gwlad wahanol, ac ymgymryd â logisteg soffistigedig ar y safle. Mae Nigel yn rhedeg fferm cig oen a chig eidion organig 400 erw yn Sir Gaerfyrddin. Mae wedi hyfforddi timau rygbi iau ers rhai blynyddoedd ac mae’n ddyfarnwr rygbi cymwys.

Image
Giancarlo Bianchi
- CYFARWYDDWR TECHNEGOL A GWERTHIANT -

Giancarlo sy’n gyfrifol am agweddau technegol gweithgareddau’r ddistyllfa yn ogystal â’r strategaethau prynu casgenni ac aeddfedu. Mae’n gyfrifol bellach hefyd am werthiant gyda phwyslais ar farchnadoedd Ewropeaidd. Graddiodd Giancarlo o Brifysgol Southampton a chafodd PhD mewn Paleo-eigioneg o Brifysgol Caergrawnt ym 1999.

Parhaodd ei weithgareddau ymchwil tan 2005 pan aeth ar drywydd newydd trwy sefydlu ei fusnes gwneud dodrefn cain ei hun. Ddiwedd 2011 ymunodd â’r Welsh Whisky Company fel Rheolwr y Ganolfan Ymwelwyr. Maes o law, daeth ei waith academaidd trylwyr a’i wybodaeth am bren yn sgiliau pwysig sy’n sail i’w gyfrifoldebau presennol.

Image
Neil Quigley
- CYFARWYDDWR GWEITHREDIADAU -

Mae Neil yn gemegydd siartredig (MRSC) a raddiodd ym 1988 gyda gradd BSc. Anrh. mewn Cemeg a Ffisioleg a dyfarnwyd MBA iddo ar ôl hynny yn 2000 gan CPCC. Ar ôl gweithio’n wreiddiol fel gwyddonydd ymchwil, aeth ymlaen i ennill profiad uniongyrchol ym mhob rhan o gylch bywyd busnes mewn datblygu cynnyrch, cynhyrchu, logisteg a’r gadwyn gyflenwi cyn gweithio ym maes gwerthu a rheoli cysylltiadau cwsmeriaid.

Mae gan Neil brofiad o fusnesau bach a chanolig yn ogystal â sefydliadau corfforaethol mawr mewn sectorau megis nwyddau defnyddwyr FMCG, deunyddiau fferyllol, diwydiant trwm a darpariaeth gwasanaeth allanol ac mae wedi bod yn Rheolwr Gyfarwyddwr un o gorfforaethau busnes can cwmni’r FTSE. Mae Neil yn gyfrifol am weithrediadau ar draws y ddistyllfa, sef warysau aeddfedu, potelu, pacio a dosbarthu.