Image

AROGLI A BLASU

"Beth am roi cwtsh bach i’r gwydryn"


I’r rhai nad ydynt yn gwbl gyfarwydd â’r syniad o ‘arogli’ wisgi, gall ymddangos ychydig yn ecsentrig. Onid diod yw wisgi? Ond mae gallu meistr ddistyllwr i farnu ansawdd wisgi drwy arogli’n unig neu farnu pryd y bydd y brag yn y casgenni’n barod ar gyfer potelu wedi bod yn rhan nodedig o’r diwylliant wisgi erioed.

Yn union fel y gall clust wedi’i hyfforddi adnabod seiniau offerynnau unigol mewn cerddorfa, mae’r ‘trwyn’ hyfforddedig yn gweithio yn yr un ffordd a gall adnabod yr elfennau blas unigol mewn wisgi cymhleth.

Er bod trwynau rhai pobl yn fwy sensitif, nid yw arogli’n gelfyddyd sydd wedi’i chyfyngu i ryw glwb arbennig a gall y dechreuwr ym myd wisgi ddysgu’n gyflym sut i adnabod yr elfennau sylfaenol. Cofiwch – peidiwch â chael eich siomi os na allwch adnabod almon, bergamot a sinamon yn syth, er enghraifft. Y man cychwyn yw mwynhau’r persawr cyffredinol mewn cytgord â’i gilydd.

Mae’r rhan fwyaf o flaswyr proffesiynol yn arogli’r wisgi ar ei ben ei hun er mwyn cael ‘teimlad drwy’r trwyn’ ac yna byddant yn ychwanegu tua hanner cymaint eto o ddŵr naturiol pur ar dymheredd yr ystafell. Mae hyn yn helpu i ryddhau’r arogleuon anweddol yn y wisgi ac yn gymorth mawr wrth geisio adnabod arogleuon unigol.

Cam 1

Ymddangosiad: Sylwch ar y lliw a’r disgleirdeb. Daliwch y gwydryn yn eich dwylo a rhoi cwtsh bach iddo.

Cam 2

Yr arogl: Mae disgrifio arogl gan ddefnyddio geiriau yn anodd bob amser. Yn gyntaf, beth yw’r effaith ar eich trwyn? Yw’r arogl yn siarp, yn bigog, yn cynhesu, yn sychu? Yn ail, pa mor ‘eofn’ neu ‘swil’ yw e? Peidiwch ag anadlu’n rhy ddwfn, gan y gall cryfder yr anweddau alcohol bylu eich synhwyrau, gan ‘bylu’r chwaeth’. Yn drydydd, ystyriwch bob un o’r grwpiau arogleuon ar y rhestr wirio hon:

  • Arogleuon grawnfwydydd: brag, tost, llysiau
  • Arogleuon ester: persawrus, ffrwythus, blodeuog
  • Arogleuon aldehyd: gwair, dail, blodau
  • Arogleuon melys: mêl, fanila
  • Arogleuon pren: pren newydd, resin, hen bren
  • Arogleuon olewog: cnau, menyn, brasterog

Cam 3

Blas sylfaenol: Beth yw’r blasau cychwynnol wrth i’r hylif lifo dros eich blasbwyntiau? Ydyn nhw’n felys, yn sur, yn hallt, yn chwerw?

Cam 4

Cefn y daflod: Wrth i chi lyncu, yw blas cefn y daflod yn gyson â’r hyn a addawyd gan yr arogl a’r blas cyntaf? Neu a yw’n dechrau dangos nodweddion gwahanol?

Cam 5

Adflas: A yw’n orffeniad byr, yn pylu’n gyflym, neu a yw’r blas yn parhau fel machlud haul yr haf dros Fannau Brycheiniog? Bydd bragau Cymreig yn aros ar eich blasbwyntiau.

Bydd yfwyr wisgi craff yn gwybod am y dimensiwn ychwanegol hwn ac yn ei werthfawrogi fel rhagarweiniad i flasu. Er mai dim ond pedwar blas sylfaenol sydd i’w profi drwy flasu; chwerw, sur, melys a hallt, mae gan y trwyn dynol dros 1000 o wahanol ddynodwyr arogl.

Hefyd, fel y gwyddom i gyd, mae arogl yn rhan annatod o flas. Heb arogl, mae blas yn colli ei ddyfnder a’i sylwedd. Gyda wisgi brag mae arogl cynnil a chytbwys yn golygu blas llyfnach sy’n rhoi mwy o foddhad.