Image

HANES Y BRAND

"Roedd distyllu yng Nghymru yn gelfyddyd goll..."


… ond tua diwedd y 1990au, mewn tafarn mewn tref ôl-ddiwydiannol fach yn y Cymoedd, roedd criw o ffrindiau yn yfed ac yn sgwrsio am sefydlu’r ddistyllfa wisgi gyntaf yng Nghymru ers dros gan mlynedd. Roeddynt yn breuddwydio am greu wisgi mor bur a gwerthfawr ag aur Cymru, a gynrychiolir heddiw gan ‘wythïen aur’ Penderyn.

Roedd gan y cyfeillion leoliad ym mhentref hanesyddol Penderyn ym mhen deheuol Bannau Brycheiniog, a ddewiswyd oherwydd bod gan y safle ei gyflenwad ei hun o ddŵr ffynnon ffres naturiol. Roedd ganddynt bair copr sengl unigryw a gynlluniwyd gan Dr David Faraday hefyd, perthynas i’r gwyddonydd mawr o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, Michael Faraday. Lansiwyd Wisgi Penderyn ar Ddydd Gŵyl Dewi 2004 ym mhresenoldeb Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Siarl.

Ym Mhenderyn rydym yn cynhyrchu ein gwirod haidd brag ein ​​hunain sydd, wedi iddo aeddfedu, yn cael ei gydnabod ledled y byd fel un o’r wisgis brag sengl gorau. Rhoddir y rhan fwyaf o’n gwirod mewn casgenni i’w heneiddio yn ein seleri. Defnyddir y gweddill i greu cynhyrchion arobryn eraill. Gyda buddsoddiad, ysbrydoliaeth, gwaith caled, rhoi sylw i bob manylyn, yr haidd gorau, distyllwyr arbenigol a’r casgenni bourbon derw Americanaidd gorau, mae Wisgi Penderyn wedi ennill ei blwyf yn gyflym ym mhedwar ban byd gan ennill nifer o wobrau ar y ffordd. Yn ddiweddar, rydym wedi ehangu i farchnadoedd newydd mewn gwledydd fel Tsieina, Rwsia ac Awstralia.

"Nid yw’n gelfyddyd goll mwyach."