Y Ddraig Goch yw baner genedlaethol Cymru ac mae’r geiriau ‘Y Ddraig Goch ddyry gychwyn’ i’w gweld ar fathodyn Brenhinol Cymru. Mae’r ddraig yn rhan o hen chwedlau Cymru ac roedd ar faner tywysogion arwrol Cymru mewn brwydrau. Aeth y Cymro Harri Tudur â’r faner gydag ef i Bosworth ym 1485, ac ef oedd brenin olaf Lloegr i gael ei goroni ar faes y gad.
Legend

Wisgi brag sengl gyda gorffeniad Madeira yw Legend, wedi’i botelu ar gryfder o 41% abv.

NODIADAU BLASU

Arogl: aroglau afalau a ffrwythau sitrws ffres gyda chyffug hufen a rhesins syltana i greu wisgi cymhleth ond ffres, glân a chytbwys.

Blas: Llyfn tu hwnt gyda digonedd o flas ffrwythau ffres a sych cyfoethog. Cywrain a melys gyda’r mymryn lleiaf o chwerwder i adfywio.

Gorffeniad: Adflas hir o gacen Madeira a syltanas.

2015 Global World Whisky Masters – Aur


Myth

Wisgi brag sengl yw Myth wedi’i aeddfedu mewn hen gasgenni gwin coch a bourbon wedi’u dewis yn arbennig, a’i botelu ar gryfder o 41% abv.

NODIADAU BLASU

Arogl: Mae Myth yn ffres a bywiog, gyda chymysgedd o ffrwythau sitrws gydag afal, losin ‘pear drops’ a’r awgrym lleiaf o ffrwythau trofannol.

Blas: Melys i ddechrau ond yna’n newid i ganiatáu i dipyn o chwerwder braf ddod i’r amlwg, ond y ffrwythau cymysg yw’r blas amlycaf o hyd.

Gorffeniad: Yn raddol mae’r blasau amrywiol yn cilio gan adael atgof o wisgi bywiog a golau sy’n hawdd i’w yfed.

2015 Global World Whisky Masters – Aur


Celt

Mae Celt yn wisgi brag sengl wedi’i orffen mewn hen gasgenni chwarter blas mawn, a’i botelu ar gryfder o 41% abv.

NODIADAU BLASU

Arogl: Mae arogleuon ysgafn mwg mawn, bore cynnar ar lan y môr creigiog a marmalêd cynnes ar dost oll yn cystadlu am ein sylw.

Blas: Mae’n dechrau gyda melyster mawr cyn i’r blasau myglyd, mymryn yn feddyginiaethol ymddangos.

Gorffeniad: Ychydig o chwerwder yn dilyn sy’n gadael ffresni hirhoedlog yn y geg.

2016 World Whisky Masters ‘Europe Single Malt Premium Whiskies’ – Aur