‘‘Mae’r fodca mor llyfn a gallaf flasu’r holl flasau sydd ynddo.’ ’
Fodca
Mae FIVE yn fodca premiwm gyda chryfder o 43% abv a gynhyrchir gyda dŵr glân pur o’i darddle ei hun, wedi’i hidlo gan y creigiau a’i fagu gan y rhewlifoedd ym mynyddoedd gwyllt Bannau Brycheiniog. Caiff ei ddistyllu bum gwaith er mwyn iddo fod ar ei buraf. Gall fodca gael ei hidlo â golosg ond mae FIVE mor bur fel nad oes angen unrhyw hidlo pellach arno.
NODIADAU BLASU
Wrth ychwanegu mymryn o wirod haidd o ddistyllbair unigryw Penderyn, ychwanegir blas ffrwythau llyfn at FIVE.
2018 World Vodka Awards – UK Pure Neutral Category – Winner
2017 International Spirits Challenge – Gold
2016 International Wine & Spirits Awards – Silver